Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc
Dyddiad:  22 Tachwedd 2012
Lleoliad:  Y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Teitl: Ymchwiliad i waith Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd (CAFCASS Cymru)

 

Diben

 

1.            Mae’r papur hwn yn rhoi tystiolaeth CAFCASS Cymru i ymchwiliad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru i waith y sefydliad. Mae’r dystiolaeth yn canolbwyntio ar y meysydd a ddynodwyd i’r Pwyllgor graffu arnynt fel rhan o’i ymchwiliad.

 

Cyflwyniad: Trosolwg o gynnydd a chyflawniadau

 

2.            Mae CAFCASS Cymru’n chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o gynorthwyo plant a theuluoedd sy’n ymwneud ag achosion mewn llysoedd teulu. Mae’n cynghori’r llysoedd ar y ffordd orau o weithredu ar sail asesiad o fudd pennaf plant unigol. Ei ddiben yw diogelu’r plentyn a sicrhau y clywir ei lais yn y system cyfiawnder teuluol.

 

3.            Mae lles y plentyn yn y dyfodol yn greiddiol i bob cam a gymerir gan CAFCASS Cymru.

 

4.            Wrth ymateb i adroddiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2010, dechreuodd CAFCASS Cymru raglen uchelgeisiol o newid. Mae’r prif elfennau wedi cynnwys:

 

·         Ad-drefnu’r sefydliad gan greu strwythur rhanbarthol sy’n gydffiniol â model y Byrddau Iechyd Lleol, a ddisgrifir gan gynrychiolydd o Prospect mewn cyfarfod o Fforwm Partneriaeth yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant ym mis Medi 2011 fel ad-drefnu enghreifftiol yn Llywodraeth Cymru.

·         Galluogodd yr ad-drefnu ryddhau adnoddau i gefnogi’r gwaith o gyflenwi  gwasanaethau rheng flaen.

·         Lleihau’n sylweddol yr achosion oedd wedi cronni ac yn aros i gael eu dyrannu, er gwaethaf cael y nifer fwyaf o atgyfeiriadau gofal yn hanes y sefydliad.

·         Datblygu perthnasoedd strategol gydag Awdurdodau Lleol, y Farnwriaeth a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM).

·         Lansio Cynllun Strategol CAFCASS Cymru 2012 –15 ym mis Ionawr 2012 yn dilyn ymgynghoriad gyda phlant a phobl ifanc ar ei ddatblygiad.

·         Fersiwn i blant o’r Cynllun Strategol.

·         Ymgynghori gyda phlant a phobl ifanc ar ddatblygiad pecynnau Gwybodaeth i Blant sy’n rhoi gwybodaeth i blant am CAFCASS Cymru a’r gwasanaethau a ddarperir mewn fformat addas i’r oedran. Lansiwyd y pecynnau hyn ar 12fed Tachwedd 2012.

·         Cyflwyno proses Cwynion newydd sy’n gyson â chanllawiau Prif Weinidog Cymru ar reoli cwynion gan Wasanaethau Cyhoeddus.

·         Cynnal adolygiad darbodus cynhwysfawr o’r prosesau gweinyddu ar draws y sefydliad i sicrhau gwell cysondeb ac effeithlonrwydd.

·         Cynnal adolygiad o wasanaethau cyswllt â phlant ledled Cymru, gan weithredu strategaeth ar gyfer gwell darpariaeth, trefniadau ariannu tecach a gwell rheoli ar y rhwydwaith darpariaeth gwasanaethau Cymru Gyfan o fis Ebrill 2013 ymlaen.

·         Datblygu a gwella’r gallu i reoli gwaith yn electronig, gan gynnwys gweithredu datrysiad sganio sy’n integreiddio’r system electronig i reoli achosion a system electronig Llywodraeth Cymru i reoli cofnodion.

 

Meysydd i gael eu hadolygu gan y Pwyllgor

 

Y cynnydd a wnaethpwyd wrth weithredu argymhellion arolygiad Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ym mis Tachwedd 2010 a’r ailstrwythuro sefydliadol a ddigwyddodd yn CAFCASS Cymru wedi hynny

 

·                     Argymhellion yr arolygiad

 

5.            Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) arolygiad helaeth o CAFCASS Cymru yn 2010.  Yn dilyn gradd foddhaol gyffredinol, datblygwyd cynlluniau gweithredu a rhaglenni gwaith i fynd i’r afael â’r wyth argymhelliad a wnaethpwyd gan y tîm arolygu:

 

Cyf

Argymhelliad

Statws

A

Adolygu strwythur cyffredinol y sefydliad er mwyn sicrhau arweinyddiaeth effeithiol, goruchwyliaeth gan reolwyr ac atebolrwydd y gwasanaeth.

Wedi’i gwblhau. Strwythur sefydliadol newydd yn bodoli mis Hydref 2011.

B

Datblygu a gweithredu system ar gyfer cael adborth a gwerthusiadau gan ddefnyddwyr sy’n blant a phobl ifanc, sy’n cyfrannu at newid arferion gwaith a pholisïau.

Gwaith ar y gweill fel rhan o agenda cyfranogiad y sefydliad (gweler hefyd yr ymateb ym mharagraffau 15‑27).

C

Datblygu a gweithredu system ar gyfer cael adborth a gwerthusiadau gan ddefnyddwyr sy’n oedolion, sy’n cyfrannu at newid arferion gwaith a pholisïau.

Wedi’i gwblhau.  Anfonir holiaduron  defnyddwyr gwasanaeth sy’n oedolion fel mater o drefn i bob defnyddiwr gwasanaeth fel rhan o becyn croeso’r sefydliad. Mae Uwch Dîm Rheoli'r sefydliad yn gwerthuso’r adborth bob chwarter ac yn nodi camau gweithredu lle bo’n berthnasol.

D

Cynnal adolygiad llawn o’r prosesau, y gweithdrefnau a’r arferion gwaith o ran cwynion, a gwella’r broses o ymdrin â chwynion ar draws y sefydliad.

Mae’r adolygiad wedi cael ei gwblhau ac mae proses newydd wedi cael ei chyflwyno. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i wreiddio’r broses newydd yn llawn ac yn effeithiol.

E

Gwella gwasanaethau i blant ag anableddau.

 

Gwaith ar y gweill. Wedi’i gynnwys fel rhan o agenda cyfranogiad y sefydliad (gweler hefyd yr ymateb ym mharagraffau 15‑27).


 

Cyf

Argymhelliad

Statws

F

Datblygu a gweithredu fframweithiau rheoli perfformiad a sicrhau ansawdd effeithiol.

 

Gwaith ar y gweill. Mae prosesau rheoli perfformiad cadarn yn bodoli ac mae gwybodaeth yn cael ei rhannu fel mater o drefn gyda GLlTEM a Phenaethiaid Gwasanaethau Plant er mwyn gwella perfformiad yn gydweithredol. Mae mecanweithiau archwilio gwell yn cael eu datblygu a’u gweithredu.

G

Adolygu’r Fframwaith Cynllunio, Cofnodi ac Asesu Achosion.

Gwaith ar y gweill. Mae cyfeiriadur pwrpasol o offer asesu’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Nod y rhain yw cefnogi a chryfhau arferion asesu a gwella ansawdd a chysondeb yn y gwaith o wneud penderfyniadau ac o ran argymhellion a dadansoddiadau. Caiff yr offer eu lansio yn 2013 gyda chefnogaeth ar ffurf sesiynau hyfforddiant pwrpasol i ymarferwyr.

H

Y Pecyn Cymorth Trais Domestig i gael ei adolygu.

 

Wedi’i gwblhau.

 

6.            Yn eu llythyr at y Prif Weithredwr dyddiedig Ionawr 2012, roedd yn galondid i AGGCC weld y cynnydd oedd wedi cael ei wneud wrth weithredu eu hargymhellion, a nodasant na fyddai angen cymryd unrhyw gamau eraill hyd nes eu harolygiad nesaf yn 2013.

 

7.            Mae’r Uwch Dîm Rheoli’n dal i fwrw ymlaen yn gadarn â’r gwaith o weithredu argymhellion yr Arolygiad, sydd bellach wedi cael eu cynnwys yng Nghynllun Strategol y sefydliad. Mae hyn yn cael ei fonitro bob chwarter.

 

8.            Wrth ragweld gofynion y diwygiadau mawr i’r system cyfiawnder teuluol wrth ymateb i’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol, mae Fframwaith Gweithredu’n cael ei ddatblygu. Bydd y Fframwaith yn nodi disgwyliadau a chanllawiau clir o ran arferion i Gynghorwyr Llys Teulu er mwyn sicrhau bod pob plentyn sy’n cael ei atgyfeirio i’r sefydliad yn cael gwasanaeth cyson wedi’i seilio ar ansawdd. Rhagwelir y caiff hyn ei lansio erbyn mis Ebrill 2013.

 

9.            Mae Pecyn Cymorth Trais Domestig wedi cael ei ddatblygu sy’n dwyn ynghyd nifer o adnoddau electronig i gynorthwyo Cynghorwyr Llys Teulu i sicrhau bod risgiau’n cael eu nodi’n gynnar, ac i wneud penderfyniadau ac argymhellion gwybodus i’r Llys. Mae safle mewnrwyd CAFCASS Cymru hefyd wedi cael ei ddiwygio i’w gwneud yn haws i ymarferwyr y rheng flaen gyrchu dogfennau sy’n ymwneud â Cham-drin Domestig.

 


·                     Ad-drefnu’r sefydliad

 

10.         Yn dilyn penodi Prif Weithredwr newydd ym mis Tachwedd 2010 cafodd adolygiad o strwythur CAFCASS Cymru ei ddechrau ar unwaith. Ymgynghorwyd â’r staff trwy gydol yr adolygiad, a rhoddwyd gwybod iddynt am y cynnydd yn rheolaidd. Er mwyn sicrhau cyn lleied o ansicrwydd ag oedd yn bosibl ymysg y staff, cafodd yr ymgynghoriad ei gwblhau erbyn mis Mawrth 2011 a chafodd y strwythur newydd ei gytuno a’i weithredu.

 

11.         Mae’r ardaloedd cyflenwi gweithredol wedi cael eu had-drefnu’n unol â model y Byrddau Iechyd Lleol. Lleihawyd y timau o 10 i 5 tîm sy’n gweithio o 15 swyddfa.

 

12.         Hanerwyd yr Uwch Dîm Rheoli a dilynodd raglen arweinyddiaeth wedi’i thargedu ar gryfhau gallu arweinyddiaeth strategol y sefydliad.

 

13.         Lleihawyd y timau canolog o 3 i 1.

 

14.         Mae tîm canolog Gwaith Cyfraith Breifat i Wrandawiad Cyntaf wedi cael ei sefydlu i wella cysondeb y ddarpariaeth gwasanaethau.

 

15.         Mae’r sefydliad wedi sefydlu swydd newydd Rheolwr Arfer i wella’r cymorth a ddarperir i ymarferwyr y rheng flaen.

 

16.         Yn sylfaen i’r newidiadau strwythurol roedd y gwaith o ddatblygu system gadarn i ddadansoddi gwybodaeth rheoli perfformiad.

 

Pa mor effeithiol mae CAFCASS Cymru yn cyflenwi ei wasanaethau’n unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, er enghraifft, ymgysylltu â defnyddwyr, gwneud penderfyniadau er budd pennaf y plentyn

 

17.         Mae’r gwaith o weithredu Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) mewn dau gam. Bydd yr ail gam, sy’n dod i rym o 1 Mai 2014 ymlaen, yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i erthyglau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth arfer eu holl swyddogaethau, gan gynnwys swyddogaethau CAFCASS Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd angen i Gynghorwyr Llys Teulu hwythau yn eu tro roi sylw dyledus i erthyglau’r Confensiwn pan fyddant yn cyflawni eu dyletswyddau mewn achosion teuluol. Ar hyn o bryd, bydd adroddiad y Llys yn adlewyrchu’r ffaith mai lles y plentyn fydd ystyriaeth bennaf y llys yn unol â Deddf Plant 1989.

 

18.         Penderfynodd Uwch Dîm Rheoli CAFCASS Cymru ei gwneud yn orfodol i’r holl staff gwblhau hyfforddiant Llywodraeth Cymru ar y Confensiwn. Mae cyfraddau cwblhau wedi cael eu monitro’n fanwl er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth lawn â’r gofyniad hwn.

 

19.         Er mwyn dangos yn glir ymrwymiad y sefydliad i ymgysylltu’n effeithiol â phlant, mae’r Uwch Dîm Rheoli wedi cael hyfforddiant pwrpasol ar gyfranogiad plant a sut y gellid datblygu a gwella hyn ledled y sefydliad.

 

20.         Mae hyn wedi cael ei ategu trwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau hyfforddiant rhanbarthol i staff y sefydliad, wedi’u hwyluso gan Gyfranogaeth Cymru, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cyfranogiad ac ymgysylltu yng ngwaith CAFCASS Cymru.

 

21.         Yn ystod haf 2011 cynhaliwyd digwyddiadau Cyfranogiad Plant ledled Cymru i ymgynghori ar fersiwn i blant o’r Cynllun Strategol newydd. Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle hefyd i ymgynghori ar ddatblygiad a chynnwys y Pecynnau Gwybodaeth i Blant, sy’n darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc am wasanaethau CAFCASS Cymru mewn fformat addas i’r oedran. 

 

22.         Mae gwaith yn parhau ar gyfranogiad plant trwy’r gwaith o ddatblygu ac adolygu cynllun cyfranogiad ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth.

 

23.         Mae ymdrechion dygn wedi cael eu gwneud eleni i recriwtio Rheolwr Cyfranogiad, fydd â’r cyfrifoldeb am gyflawni cynllun Cyfranogiad y sefydliad. Hyd yma, nid yw’r ymdrechion hyn wedi bod yn llwyddiannus. Felly mae’r sefydliad yn dilyn proses manyleb a thendr Llywodraeth Cymru gyda golwg ar benodi darparwr cyfranogiad allanol i gynorthwyo â’r gwaith o fwrw ymlaen â’r agenda cyfranogiad.

 

24.         Fel rhan o broses cwynion bwrpasol y sefydliad i blant, cytunwyd ar drefniadau eiriolaeth i blant gyda Thros Gynnal Plant a’r Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol er mwyn sicrhau y darperir cymorth eiriolaeth a modd i fanteisio arni, lle bo angen, i blant sydd eisiau gwneud cwyn.

 

25.         Mae taflenni gwybodaeth i blant sydd eisiau gwneud cwyn i’w cael yn y pecyn Gwybodaeth i Blant. Rydym yn croesawu’r cynnig gan y Comisiynydd Plant i rannu’r daflen cwynion i blant sydd gan ei swyddfa a rhoi cyfle i’r sefydliad ei mabwysiadu a’i haddasu.

 

26.         Mae pecyn gwybodaeth addas ar gyfer plant wedi cael ei ddatblygu gan ymgynghori â phlant a phobl ifanc, rhanddeiliaid a staff, ac mae i fod i gael ei gyflwyno ym mis Tachwedd 2012.

 

27.         Mae gwella ein gwasanaethau i blant ag anableddau’n rhan o agenda cyfranogiad y sefydliad. Mae cyfeiriadur CAFCASS Cymru o brofiad a sgiliau ymarferwyr wrth weithio gyda phlant ag anableddau’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, a bydd yn adnodd i ymarferwyr i gefnogi gwaith effeithiol yn y maes hwn.

 

28.         Mae’r Rhestr Wirio Lles Plant a Phobl Ifanc yn adnodd asesu sydd wedi cael ei ddatblygu gan yr Athro Gordon Harold, Seicolegydd Plant, ynghyd â CAFCASS Cymru.  Mae’n gosod ymatebion a phrofiadau plant wrth wraidd y broses asesu yng nghyd-destun dod i gysylltiad â gwrthdaro rhwng rhieni a/neu gam-drin domestig.

 

29.         Un o gryfderau’r sefydliad yw ein bod ni’n ymdrechu’n ddi-baid i sicrhau y clywir  llais y plentyn mewn Achosion Teuluol, fel y dengys ymateb Pwyllgor Llysoedd Teulu Cymdeithas yr Ynadon.

 

30.         Rydym yn croesawu’r awgrym gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru y dylai ein gwefan gael ei gwella trwy gael rhan benodol i blant a phobl ifanc ac y dylid adolygu’r ffordd yr ydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i weithredu’r awgrymiadau defnyddiol hyn.

 

 

Pa mor effeithiol mae CAFCASS Cymru yn cyflawni ei rôl o ddarparu canolfannau cyswllt â phlant

 

31.         Yn 2011 cynhaliodd CAFCASS Cymru adolygiad cynhwysfawr o'r Gwasanaethau Cyswllt â Phlant ledled Cymru. Datgelodd yr adolygiad fod y ddarpariaeth yn anghyson ac yn fylchog, fod cyllido’n annheg ac nad oedd y rhwydwaith ar gyfer darparwyr gwasanaethau cyswllt yn cael ei reoli'n effeithiol. Yn dilyn yr adolygiad, amlinellodd CAFCASS Cymru ei gynlluniau ar gyfer darpariaeth, cyllido a threfniadau cymorth yn y dyfodol ar gyfer y Gwasanaethau Cyswllt â Phlant yng Nghymru i'r Dirprwy Weinidog.

 

32.         Mae'r cynlluniau hyn yn ceisio mynd i'r afael â'r materion a nodwyd yn yr adolygiad, a chânt eu gwireddu'n llawn o fis Ebrill 2013 ymlaen. Hyd yma, gwnaethpwyd cynnydd sylweddol wrth weithredu'r cynlluniau mewn partneriaeth â'r darparwyr presennol.

 

33.         Mae trefniadau trosiannol yn bodoli ar gyfer 2012-13, ac mae cyllid wedi ei dargedu i ardaloedd â blaenoriaeth ledled Cymru. O ganlyniad, mae 4 Canolfan Cyswllt â Phlant ychwanegol wedi cael eu hariannu ar sail 12 mis yn Y Fenni, Castell-nedd Port Talbot, Glynebwy a Phontllanfraith.

 

34.         Mae'r cynlluniau hyn yn cynnwys comisiynu darpariaeth gwasanaeth cyswllt yn rhanbarthol yn unol â'r egwyddorion a nodir yn fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru, ac maent yn gyson â model y Byrddau Iechyd Lleol a threfn weithredol CAFCASS Cymru. 

 

35.         Er mwyn gwella sicrwydd ansawdd a chysondeb ledled Cymru, mae penodi Rheolwr Rhwydwaith annibynnol â sgiliau cydnabyddedig i reoli rhwydwaith darparwyr gwasanaeth Cyswllt â Phlant Cymru gyfan ar ran Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddatblygiad allweddol.

 

36.         Yn dilyn ymarfer caffael, mae CAFCASS Cymru, gyda chymorth timau sy'n arbenigo mewn Rhagoriaeth Grantiau, Gwasanaethau Cyfreithiol a Chaffael, wedi penodi Cymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cyswllt â Phlant i fod yn Rheolwr Rhwydwaith ar gyfer rhwydwaith darparwyr gwasanaeth Cyswllt â Phlant Cymru gyfan ym mis Awst 2012.

 

37.         Yn ddiweddar, cychwynnwyd ar broses o ddyfarnu grantiau mewn perthynas â darparu'r gwasanaeth cyswllt o fis Ebrill 2013 ymlaen. Bydd y darparwyr yn cyflwyno ceisiadau am grantiau erbyn mis Rhagfyr 2012, a bydd y rhain yn sail i'r penderfyniadau a’r argymhellion a wneir gan roi ystyriaeth i'r lefelau galw. Bydd y cynigwyr llwyddiannus yn cael arian dangosol am 3 blynedd.

 

Goblygiadau'r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol a’i effaith ar waith CAFCASS Cymru

 

38.         Mae CAFCASS Cymru'n croesawu'r diwygiadau mawr i'r system cyfiawnder teuluol sy'n cael eu cyflawni mewn ymateb i'r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn i wella gwasanaethau a chanlyniadau i blant a theuluoedd yng Nghymru.

 

39.         Sefydlwyd Bwrdd Cyfiawnder Teuluol newydd i Gymru a Lloegr i ddarparu mwy o arweinyddiaeth a chydgysylltu ar draws y system. Mae'r aelodaeth o Gymru'n cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a CAFCASS Cymru.

 

40.         Er mwyn ategu a chynorthwyo gwaith y Bwrdd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol newydd yn cael ei greu i ddwyn ynghyd asiantaethau craidd yn y system cyfiawnder teuluol yng Nghymru, gan gynnwys CAFCASS Cymru, i gydweithio a dymchwel rhwystrau at ddiben gwella perfformiad yng Nghymru.     

 

41.         Mae CAFCASS Cymru yn cydnabod bod perthnasoedd effeithiol gyda phartneriaid a rhanddeiliaid yn hanfodol i gyflenwi a gwella gwasanaethau. Yn ystod 2011-12, mae'r sefydliad wedi cryfhau ei berthnasoedd yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, gan gynnwys:

 

a.        Mae Prif Weithredwr CAFCASS Cymru yn ymgysylltu'n rheolaidd â’r Meistr Ustus Moor, Barnwr Cyswllt yr Adran Deuluol dros Gymru ac uwch swyddogion o Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd Ei Mawrhydi (GLlTEM).

b.        Roedd CAFCASS Cymru yn cydnabod bod angen iddo ddatblygu perthynas fwy effeithiol gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn arbennig, ac mae'n gwerthfawrogi'n fawr y trafodaethau a'r ymgysylltu adeiladol sydd bellach yn digwydd yn rheolaidd yn genedlaethol ac yn lleol.

c.        Ers mis Chwefror 2012, mae CAFCASS Cymru wedi cynnal cyfarfodydd teirochrol gyda Phenaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru gyfan ac GLlTEM i nodi heriau'r rhaglen ddiwygio ac i gydweithio i wella'r gwasanaethau a ddarperir i blant, i deuluoedd ac i'r Llysoedd. Daeth hyn wedyn yn is-grŵp yn y Rhwydwaith Cyfiawnder Teuluol.

d.        Ym mis Mawrth a mis Ebrill 2012, hwylusodd CAFCASS Cymru ddwy gynhadledd ar y cyd oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o staff GLlTEM yng Nghymru a chynghorwyr ar gyfraith teulu; ymarferwyr, gweinyddwyr a rheolwyr CAFCASS Cymru; y farnwriaeth deuluol ac ynadon panel teuluol ynghyd â chyfreithwyr Awdurdodau Lleol. Nodau'r gweithdai oedd datblygu trefniadau gweithio agosach rhwng yr holl asiantaethau cyfiawnder teuluol statudol perthnasol yng Nghymru, lleihau oedi mewn achosion teuluol, cyfrannu at sicrhau canlyniadau gwell i blant a chanolbwyntio'r gwasanaethau ar anghenion y plentyn.

e.        Mae CAFCASS Cymru yn gwerthfawrogi'r cymorth a roddir gan ei Bwyllgor Cynghori o dan gadeiryddiaeth Ms Catriona Williams. Mae'r Pwyllgor hwn yn ei gwneud yn bosibl i ymgysylltu'n rheolaidd â sefydliadau’r Trydydd Sector ac mae wedi caniatáu i amrywiaeth fawr o sefydliadau sy'n rhanddeiliaid graffu ar raglenni newid CAFCASS Cymru.

 

42.         Mae CAFCASS Cymru wedi cymryd rôl arweiniol yn y gwaith o gyflawni'r diwygiadau i'r system cyfiawnder teuluol yng Nghymru. Yn benodol, mae CAFCASS Cymru'n rhannu ei ddata craidd yn rheolaidd gyda'i bartneriaid yn yr Awdurdodau Lleol a'r Llysoedd. Mae hyn wedi arwain at drafodaethau ac ymchwil ynghylch yr amrywiadau yn y cyfraddau atgyfeirio rhwng Awdurdodau Lleol, y defnydd a wneir o arbenigwyr mewn achosion a'r amrywiadau yn y cyfraddau cwblhau mewn Llysoedd ledled Cymru.

 

43.         Un o argymhellion allweddol yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol yw lleihau'r amser a gymerir i gwblhau achos cyfraith gyhoeddus yn y Llys. Ar hyn o bryd, cymerir 55.4 wythnos ar gyfartaledd yng Nghymru; 26 wythnos yw'r targed. Mae CAFCASS Cymru'n adolygu ei arferion gweithio ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y gallwn fodloni gofynion y llwybr 26 wythnos ar gyfer achosion cyfraith gyhoeddus pan gaiff ei weithredu yn 2014.

 

44.         Mae CAFCASS Cymru hefyd yn aelod o Is-Grŵp Perfformiad a Gwella'r Bwrdd Cyfiawnder Teuluol sy'n gyfrifol am ddadansoddi'r wybodaeth sydd ar gael am berfformiad ac am symbylu camau gweithredu i wella perfformiad yn genedlaethol ac yn lleol yng Nghymru a Lloegr, gan gefnogi rôl y Byrddau Cyfiawnder Teuluol Lleol newydd.

 

45.         Unwaith y bydd mwy o eglurder ynghylch deddfwriaeth a disgwyliadau barnwrol yn cael ei gyhoeddi, mae CAFCASS Cymru wedi cytuno i hwyluso cyfres o weithdai ar y cyd ar gyfer staff Awdurdodau Lleol, GLlTEM a CAFCASS Cymru yn gynnar yng ngwanwyn 2013.

 

CAFCASS Cymru: y cam nesaf

 

46.         Mae CAFCASS Cymru yn cydnabod ei fod wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda'i raglen newid, ond bod y gwaith yn parhau.

 

47.         Mae CAFCASS Cymru yn gwerthfawrogi'r perthnasoedd y mae wedi eu datblygu gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a  Phenaethiaid Gwasanaethau Plant ledled Cymru; y Farnwriaeth ac GLlTEM a rhanddeiliaid ehangach trwy ei Bwyllgor Cynghori. Mae CAFCASS Cymru hefyd yn sylweddoli na all y newidiadau angenrheidiol ddigwydd ar eu pen eu hunain ac rydym yn cydweithio'n agos â'n partneriaid i ddatblygu cytundebau cyffredin ar y system ar ôl y diwygiadau.

 

48.         Mae CAFCASS Cymru yn benderfynol o gyflawni'r cynlluniau uchelgeisiol a nodir yn ei gynllun strategol.